Y Cwricwlwm
Esboniad o'r cwricwlwm o fewn yr Ysgol
Rhagair
Pwrpas cyfundrefn addysg yw creu sefyllfaoedd a chyflenwi adnoddau fydd yn galluogi pob plentyn i dyfu yn bersonoliaeth lawn, i ddatblygu ac ymarfer ei holl ddoniau, fydd yn darparu ar ei gyfer yn oedran, gallu a diddordeb, ac yn ei gymhwyso i fod yn aelod cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog, yn aelod fydd yn gallu cyfrannu iddi a derbyn oddi wrthi, a byw mewn heddwch a brawdgarwch gyda’i gyd-ddyn.
Y mae i’r datganiad cyffredinol hwn dair agwedd gyd-berthnasol.
- Galluogi pob plentyn i ddatblygu i’w lawn potensial.
- Sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gyflwyno i’r etifeddiaeth Gymreig.
- Rhoi cyfle i bob plentyn ddatblygu fel aelod llawn o gymdeithas sy’n prysur newid.
Amcanion Cyffredinol
- Datblygu sgiliau llafaredd, llythrennedd a rhifedd yng nghyd-destun symbylu chwilfrydedd, dychymyg a diddordeb y plentyn.
- Cynyddu gwybodaeth y plentyn a datblygu ei allu i resymu er mwyn ei gynorthwyo i addasu i fyd sy’n cyflym newid ac yn mynd yn fwy soffistigedig yn ei brosesau a’i dechnegau, yn arbennig mewn perthynas technoleg hysbysiaeth.
- Creu ym mhob plentyn yr awydd i geisio am fwy o wybodaeth a phrofiadau yn ystod ei fywyd, a datblygu ei feddwl a’i synnwyr moesol ac ysbrydol.
- Cynorthwyo’r plentyn i fedru byw a gweithio gydag eraill a datblygu agweddau fydd yn ei alluogi i fod yn aelod cyfrifol o gymdeithas.
- Datblygu yn y plentyn sensitifrwydd, gwerthfawrogiad esthetig a sgiliau hamdden.
- Rhoi sylw arbennig i bob plentyn sydd ag anghenion arbennig, e.e. rhai eithriadol o alluog a rhai sydd dan anfanteision amrywiol.
- Cyflwyno syniadau a chysyniadau a hynny trwy ddulliau bywiog a deinamig sy’n hawlio ymateb y disgybl.
Mae’n ofynnol i bob ysgol baratoi a datblygu cynllun cynhwysfawr, yn seiliedig ar ddogfen yr Awdurdod Addysg ac yn unol gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys manylion am y cwrs addysg a’r modd y mae’n cael ei weithredu er mwyn sicrhau bod yr addysg a gyfrennir i’r disgyblion yn cyfarfod yn llawn amcanion sydd yn y ddogfen.
Mewn perthynas â’r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae’n hanfodol i’r canlynol gael eu dysgu:
PYNCIAU CRAIDD
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth
PYNCIAU SYLFAENOL
Hanes, Daearyddiaeth, Technoleg, Celf, Cerddoriaeth ac Addysg Gorfforol, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Addysg Grefyddol,Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Anghenion Addysg Arbennig
Yn unol â Deddf Addysg 1993 rydym fel ysgol yn ceisio darparu’n briodol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Ceisiwn
- sicrhau cyfle cyfartal cwricwlaidd a chymdeithasol i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig;
- sicrhau trefn effeithiol ar gyfer adnabod plant ag anghenion addysgol arbennig;
- ddarparu addysg wahaniaethol yn ôl gofyn;
- weithio mewn partneriaeth â’r rhieni pan fo angen ystyried darpariaeth arbennig;
- sicrhau ymateb ysgol gyfan fel bo athro dosbarth yn cyd-weithio â’r Cyd-gysylltydd Anghenion Addysg Arbennig.
- ddefnyddio, a chyd-weithio â’r asiantaethau eraill perthnasol.
Trefn Gweithredu
Rhoddir plant sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfnodau – cymorth yn yr ysgol a chymorth yn yr ysgol a mwy a darperir ar eu cyfer yn unol â’r anghenion (ceir eglurhad o’r cyfnodau ym mholisïau AAA yr ysgol). Fe ymgynghorir â rhieni yn rheolaidd a bydd rhan iddynt yn y broses adolygu. Mae gan yr ysgol un aelod o staff sy’n gyfrifol am y maes yma ac yn cyd-weithio â’r athrawon dosbarth i geisio cynnig y gefnogaeth gywir ar gyfer pob plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Mae’r drefniadaeth a wneir yn cyd ymffurfio â’r canlynol:
- Rhestr Argymhellion er Adnabod Anghenion Addysgol Arbennig a’u Hasesu: Swyddfa Gymreig 1994;
- Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 49/94;
- Ffeil Anghenion Arbennig Gwynedd
Gellir cael golwg ar y polisi llawn a’r drefn gweithredu trwy gysylltu â’r Pennaeth.